Adroddwch am unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad sy’n digwydd ar safle’r Brifysgol neu’n cynnwys unrhyw unigolyn sy’n ymwneud â busnes Prifysgol Caerdydd, boed yn y DU neu dramor. Mae'n bwysig llenwi'r ffurflen hon cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y digwyddiad. Llenwch y ffurflen yn llawn, gan fod mor fanwl â phosibl.
Gall y gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio gan
- Holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Holl staff Prifysgol Caerdydd
Mae’n eich helpu i
- Rhoi manylion am y digwyddiad yr ydych chi wedi bod ynghlwm ag ef neu wedi bod yn dyst iddo
- Hysbysu’r Brifysgol am unrhyw ddigwyddiadau sydd angen eu cofnodi at ddibenion iechyd a diogelwch
- Adrodd am ddamweiniau, damweiniau fu bron â digwydd, digwyddiadau peryglus neu ddigwyddiadau amgylcheddol
Cyn dechrau
- Rhowch fanylion am y digwyddiad yr ydych chi wedi bod ynghlwm ag ef neu wedi bod yn dyst iddo
- Hysbyswch y Brifysgol am unrhyw ddigwyddiadau sydd angen eu cofnodi at ddibenion iechyd a diogelwch
- Gweler y dudalen Diogelwch a Lles Staff https://intranet.cardiff.ac.uk/staff/services/health-safety-and-environment/report-an-accident-incident-or-near-miss am ragor o wybodaeth.
- Trwy ddefnyddio'r system hon rydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi fel rhan o'ch cyflwyniad